Mab Darogan Complex Michael Sheen: philanthrocapitalism a’i broblemau

pam bo sbyncio arian randomly ddim am neud unrhyw newid strwythurol

A. Non

3 min read

Ma arwr hunan-benodedig Cymru, Michael Sheen, wedi prynu dyled 900 o bobl yn gyfrinachol …mor gyfrinachol mae o di creu rhaglen ddogfen amdano. Pantomeim o foi. Daw dim newid strwythurol o’r hyn mae’n wneud, ac eto ma’r cyfryngau wrth eu boddau. Mae’r Guardian yn ei addoi. Rhwydwaith Menywod di crimio’u nicyrs. Plaid Cymru yn meddwl bo nhw di mascot newydd. Ma’r actor ma di llwyddo troi dyngarwch yn gelfyddyd berfformio, a ma’r gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo’r shit show ma. Oes unrhyw un di cwestiynnu os mae sbyncio arian fel yn gweithio yn ymarferol?

Di Sheen ddim yn rhoi arian; mae’n areithio ei fod yn rhoi arian. Areithio’n uchal, gan ail-adrodd ‘Yma o Hyd’ yn y broses. Mae o di datgan fod o'n “not-for-profit actor” fatha fo odd y person cyntaf i sylweddoli bo cyfalafiaeth yn shafftio ni gyd. Bach fel y boi mewn house party sy’n tynnu ei gitâr acwstig allan - yn hunanfodlon, ac yn annoy-io pawb arall.

Ma ymyriadau Sheen yng Nghymru yn atgoffa fi o uchelwr mewn nofel Dickens. Yn arglwydd caredig sy’n cynnig ceiniogau i’r werin mewn trafferth, er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cyfforddus i beidio cychwyn riot. Mae’n glasur o stori. Elusen top-down. Y math sy’n gwneud i’r rhoddwr deimlo’n sanctaidd, wrth gadw’r bobl mewn angen mewn stad o ddibyniaeth.

Mae ei benderfyniad i brynu dyled y bobl ma yn swnio’n arbennig, a dwi’n sicr fod yr unigolion ffodus wedi teimlo pwysau wedi codi o’u sgwydda. (Da iawn fo, doing the bare minimum.) Ond yn hytrach na eirioli dros ddiddymiad y cysyniad o ddyled, mae’n ymddwyn fel one-man bursary scheme. Fo ydi’r system, yn hytrach na’i herio. Yn hytrach na datgymalu’r strwythurau sy’n creu dyled yn y lle cynta, mae’n atgyfnerthu’r syniad fod dyled yn rhywbeth normal. Enghraifft arbennig o philanthrocapitalism; yr ariannog yn camu fewn, hanner mendio mater ffotogenig, derbyn canmoliaeth, gan beidio â meddwl am y system a greodd y broblem yn y lle cynta.

Yr Arwr

Dwi di darllan ar social media pobl yn ei ddisgrifio fel 'radical' - un o werin Cymru, “a man of the people”, “a working-class hero made good”. Snam byd radical am daflu arian er mwyn llunio rhyw Fab Darogan saviour profile o’i hun. Ma pobl sydd wirioneddol isio creu newid yn sefydlu mudiadau cydweithredol, maen nhw’n ariannu mudiadau llawr gwlad, cefnogi streiciau - maen nhw’n creu atebion cynaliadwy. Os basa Sheen wirioneddol o ddifri am rannu cyfoeth, basa fo ddim yn talu dyledion un siec ar y tro - basa fo’n defnyddio’i arian i waredu yr amoda nath creu’r dyledion yn y lle cynta. Diom yn rhoi terfyn ar dlodi yng Nghymru; mae o’n trio diffodd chip pan fire, tra bod y tŷ i gyd ar dân.

Pam diom yn ariannu tai cydweithredol, creu gofodau cymunedol, mentrau sy’n eiddo i weithwyr? Ydio’n ormod o waith? Ella fasa fo’m yn rhaglen ddogfen compelling?? Mae’r cyfryngau yn hoff o naratif syml: Dyn Ariannog yn Achub y Tlodion. Snam angan cyflwyno cymhlethdodau sy’n trafod newid strwythurol.

Yr Ateb?

Di Cymru ddim angan arwr, boed o’n Fab Darogan, Owain Glyndŵr, Rhun ap Iorwerth, neu filiwnydd bored. Ma angan ailddosbarthu cyfoeth, newid systemig, a rhoi ffocin stop ar y syniad fod angan unigolyn i achub ni. Plasdar ydi dyngarwch, mecanwaith sy’n tawelu euogrwydd sy’n cripio cydwybod y cyfoethog. Yr ateb go iawn ydi sicrhau fod pobl fel Mr Sheen ddim angan ymyrryd yn y lle cyntaf. Ma’r boi yn trio. Ond os basa fo wirioneddol isio helpu, dylsa fo stopio actio fel atgyfodiad Owain Glyndŵr sy’n defnyddio twitter, a dechra ariannu’r chwyldro.

                             -----

Be di Philanrocapitalism???

Philanrocapitalism ydi pan ma pobl gyfoethog yn ceisio datrys problemau cymdeithasol drwy wario’u cyfoeth, ond mewn ffordd sy’n manteisio eu hunain ac yn sicrhau eu bod yn cadw rheolaeth. Yn hytrach na rhoi arian, maen nhw’n gweld cymwynas fel busnes - yn buddsoddi mewn achosion sy’n adlewychlu’n dda arnyn nhw, yn rhoi dylanwad iddynt, neu’n ffordd o greu elw ariannol yn y tymor hir. Dydyn nhw ddim yn herio’r system a greodd y broblem yn y lle cyntaf. Mae’r pŵer yn parhau yn nwylo’r cyfoethog, ond ma nhw’n yn edrych fel arwyr, tra bod achosion sylfaenol anghydraddoldeb yn parhau.

Meddyliwch amdano fel hyn: yn hytrach na lobio am gyfleoedd i gymunedau cymryd rhan mewn dramâu ledled Cymru, mae miliynydd yn rhoi arian i sefydlu theatr cenhedlaeth efo’i enw arno, a fo sy’n actio’r prif gymeriad. Mae’r theatr yn helpu rhai unigolion, ond mae’r profiad o fynd i theatr yn bellgyrhaeddol i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth, ac mae’r miliynydd yn cael ei ganmol am ddarparu’i wasanaeth.

A. Non