Y Werin Bobl: yr illusion o undod.

pw di nhw???

A. Non

Invalid Date1 min read

Dwi’n clwad “y werin” yn cal ei daflu o gwmpas lot wrth drafod ein hoff bwnc of all time. O be dwi’n ddalld, Y Werin, di’r syniad bo grŵp o bobl sy’n digwydd bod yn rhannu iaith efo rhyw ymdeimlad o undod. Bo na rhyw linyn sy’n dal ni gyd efo’n gilydd. Lyfli.

Ar yr olwg gynta, ma’r Werin yn swnio’n inclusive.

Mae’n awgrymu bo pob siaradwr Cymraeg yn ran o gymuned, ein bod yn wynebu’r un brwydrau. Di pob siaradwr Cymraeg ddim yn ddosbarth gweithiol. Di pob siaradwr Cymraeg ddim efo’r un material conditions. A di bob siaradwr Cymraeg ddim efo’r un political interests.

Reit.

Ti methu cymharu profiad person o Faes G efo rhywun o’r home counties su di dysgu Cymraeg fel hobby a di penderfynu ymgartrefu yn y Fro Gymraeg er mwyn cynnal gweithdai dawnsio gwerin. Er y gwahaniaeth ysgubol, sa’r ddau yn ffitio fel aelodau o’r “werin”, sy’n awgrymu bo hunaniaeth ieithyddol yn bwysicach na class distinctions.

Ma cal gwarad o class distinctions yn gyfleus i rai, achos bod o’n caniatáu i sgyrsiau am y Gymraeg bod am ddiwylliant yn unig, yn hytrach nag am sefyllfa economaidd pobl hefyd. Os ma pob siaradwr Cymraeg yn rhan o’r “werin”, ma hynny’n golygu na’r dosbarth canol sy’n llunio’r naratif. Ma’n caniatáu i’r crach bod yn landlordiaid, perchnogi ail gartrefi, ac yn cultural elites sy’n dominyddu’r cyfryngau - heb orfod conffrynitio eu braint.

Os da ni isio’r Gymraeg barhau, da ni angan dalld na cymuneda dosbarth gweithiol yw asgwrn cefn yr iaith. I warchod yr iaith rhaid gwarchod ein cymunedau.

Estheteg undod yw’r “werin” os ma landlords yn cal bod yn aelodau.